Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gynorthwyo busnesau a datblygiad economaidd, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi, a ariannir gan Lywodraeth y DU trwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nod Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yw:

  • Cynorthwyo busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes gyda’u cynlluniau twf a’u dyheadau
  • Hwyluso a chynorthwyo’r Sector Menter Cymdeithasol i gyflawni eu cyfleoedd
  • Meithrin cydnerthedd a gwybodaeth o fewn busnesau, yn arbennig mewn perthynas â datgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a chymorth digidol
  • Cynorthwyo gweithgarwch creu swyddi a diogelu cyflogaeth

Bydd y grant yn croesawu ceisiadau dan drefniant y cyntaf i’r felin rhwng 18 Mehefin 2025 a 30 Medi 2025, neu nes y caiff y gronfa ei neilltuo yn llawn. Rhaid cwblhau’r holl weithgarwch a hawlio’r cyllid erbyn 31 Ionawr 2026.

Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cymorth ar gyfer prosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (e.e. costau hyfforddi sy’n gysylltiedig â phryniannau offer cyfalaf – heb gynnwys costau staff neu gostau rhedeg parhaus).

Tudalen nesaf: Faint o gyllid sydd ar gael?