Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

10. Amodau a Thelerau a Derbyn y Cynnig Grant

Estynnir gwahoddiad i geisiadau llwyddiannus ymrwymo i gytundeb grant gyda Chyngor Sir Ceredigion. Bydd hyn yn esbonio pryd y gall prosiect gychwyn a’r holl amodau a thelerau, gan gynnwys unrhyw amodau penodol ar gyfer prosiect.

Pan gaiff grant ei gymeradwyo, anfonir llythyr cynnig at yr ymgeisydd. Os cynigir grant, rhaid i’r ymgeisydd ei dderbyn yn ffurfiol. Rhaid i hyn ddigwydd cyn pen 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr cynnig grant, a chyn y bydd unrhyw waith yn cychwyn.

Cyflawnir y gwaith yn unol â’r cais a gymeradwywyd yn llwyr, ynghyd ag unrhyw amodau neu ofynion perthnasol eraill a ystyrir yn angenrheidiol. Caiff y grant ei adfer os bydd y sefydliad yn dod i ben, os bydd yn symud neu os caiff yr eiddo ei werthu ymlaen cyn pen 5 mlynedd neu os na chyflawnir y cam o greu busnes neu swyddi o fewn y cyfnod penodedig.

Rhaid cael anfonebau am bryniannau yn enw’r busnes a’u talu gan ddefnyddio cyfrifon banc, cardiau debyd neu gardiau credyd y busnes.

Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig, Unig Fasnachwyr a phartneriaethau ddefnyddio cyfrif banc y busnes i brynu’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant.

Mae’n bwysig nodi y telir grantiau dan drefniant ôl-weithredol, felly rhaid bod ymgeiswyr yn gallu talu am yr eitem(au) yn llawn ymlaen llaw ac yna hawlio gwerth y grant yn ôl gan Gyngor Sir Ceredigion.

Oherwydd y telir grantiau dan drefniant ôl-weithredol, os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant i mewn i gyfrif banc y busnes sy’n gwneud y cais. Mae hyn yn seiliedig ar gael tystiolaeth o brynu a thalu h.y. datganiadau banc gwreiddiol neu ar-lein wedi’u hargraffu ac anfonebau gwreiddiol er mwyn cadarnhau gwariant. Efallai y bydd cipluniau o drafodion unigol yn gymwys dan amgylchiadau penodol.

Rhaid gofyn i dîm y grant am unrhyw wyriadau i’r cais o ran cyflenwyr a gwariant cyn prynu. Gallai methu ceisio cymeradwyaeth arwain at beidio talu’r grant am yr eitemau hynny.

Bydd gofyn cael tystiolaeth ffotograffig o’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant er mwyn cefnogi’r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd gofyn cynnal ymweliad safle.

Rhaid i’r ymgeisydd dderbyn amodau a thelerau y grant trwy lofnodi a dychwelyd cytundeb Cynnig Grant Busnes Cynnal y Cardi UKSPF cyn pen 10 diwrnod o’i gael. Rhaid cwblhau’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant cyn pen 4 mis o ddyddiad y cytundeb Cynnig Grant neu 31 Ionawr 2026, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Ni roddir estyniad er mwyn cyflwyno’r hawliad.

Rhaid cyflawni’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r prosiectau cyn pen 12 mis o dalu’r grant terfynol neu 31 Rhagfyr 2026, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Gwneir gwaith i fonitro’r sefydliad a’r swyddi a grëwyd a bydd gofyn cael tystiolaeth. Gallai methu cyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfer cyllid y grant.

Os na fydd y prosiect yn symud yn ei flaen yn ystod y cyfnod a nodir yn y cytundeb cynnig grant, bydd y cynnig grant yn mynd yn ddi-rym yn awtomatig. Gellir cynnig estyniad i gyfnod y cynnig grant, ar yr amod y gwneir cais ysgrifenedig am hyn. Rhaid i’r ymgeisydd ofyn i dîm Cynnal y Cardi am unrhyw amrywiad i’r Amodau a Thelerau a nodir yn y cytundeb Cynnig Grant a bydd yn rhaid i’r Cyngor awdurdodi hyn. Ni ystyrir pryniannau arian parod ar gyfer taliadau grant.

Mae eitemau a brynir gan ddefnyddio cardiau credyd yn gymwys. Rhaid i fusnesau ddefnyddio cardiau credyd y busnes i brynu eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(cyfarwyddwyr). Ni chynigir ac ni thelir grantiau os bydd gan y busnes neu’r ymgeisydd ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i unrhyw un o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yng ngweithrediad y cynllun.

Ar ôl cwblhau’r gweithgarwch grant, rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno ffurflen hawlio gyda chopïau o anfonebau a thystiolaeth y talwyd cost gyfan gwbl y gweithgarwch a phrawf o’i gyflawni. Ar ôl ei gymeradwyo, gwneir y taliad i gyfrif yr ymgeisydd ar ffurf trosglwyddiad BACS. Rhaid bod pob anfoneb wedi cael ei thalu o gyfrif banc y busnes a enwyd gan yr ymgeisydd.

Sylwer: Bydd y Cyngor yn monitro tystiolaeth o’r allbwn dros gyfnod o ddeuddeg mis ar ôl talu’r grant.

Tudalen nesaf: Cyhoeddusrwydd

Tudalen flaenorol: Rheoli Cymhorthdal