
3. Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Croesawir ceisiadau gan:
- Sefydliadau nid er elw/mentrau cymdeithasol a phartneriaethau
- Elusennau Cofrestredig
- Rhwydweithiau a grwpiau cymunedol (H.y., rhaid bod ganddynt gyfrif banc a 2 lofnodwr, rhwydwaith/grŵp cymunedol cyfansoddiadol)
- Sector cyhoeddus
Er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio, rhaid i ymgeiswyr cael cymorth busnes, ac yn llenwi’r ffurflen gais mewn ymgynghoriad naill â’i gyda un o ddarparwyr cymorth busnes a restrir isod, neu gyda ymgynghorwr cydnabyddedig arall.:
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) - gen@cavo.org.uk
- Severn Wye Energy Agency Ltd - (yn benodol ar gyfer cymorth gydag atebion effeithlonrwydd ynni) - rebeccaw2@severnwye.org.uk
- Cwmpas - nick.wilson@cwmpas.coop
Rhaid cyflawni’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant a’i glirio (talu) erbyn 31 Ionawr 2026. Ni roddir unrhyw estyniadau. Gallai methu cyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfer cyllid y grant.
Tudalen nesaf: Gwariant Cymwys
Tudalen flaenorol: Faint o gyllid sydd ar gael?