
6. Proses Ymgeisio
Rhaid cynnal trafodaethau cychwynnol gyda’r darparwyr cymorth cymunedol er mwyn sicrhau bod gweithgarwch y prosiect yn gymwys. Rhoddir sylw i geisiadau ar sail trefniant y cyntaf i’r felin.
Ar y dechrau, mae gofyn i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb i’r darparwyr cymorth. Yna, asesir y datganiad o ddiddordeb at ddibenion cymhwystra ac os caiff ei gymeradwyo, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.
Yna bydd angen i bob ymgeisydd lenwi’r canlynol a’u dychwelyd:
- Ffurflen Gais a thaenlen excel Atodiad A wedi’u llenwi
- O leiaf 2 flynedd lawn o gyfrifon hanesyddol a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os na fydd sefydliad wedi bodoli am 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a neu grynodeb incwm a gwariant o’r dyddiad cychwyn tan ddyddiad y cais
- Dyfynbrisiau ysgrifenedig ffurfiol am yr eitemau yn y cais (gweler canllawiau caffael)
- Prawf o arian cyfatebol
Sylwer: Cyn symud ymlaen i’r panel, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu dogfennau hanfodol megis cyllid cyfatebol, rhaid cadarnhau caniatâd cynllunio (pan fo hynny’n berthnasol) cyn y bydd y darparwyr cymorth cymunedol yn paratoi’r cais at ystyriaeth y panel. Mae’r ymgeisydd yn llwyr gyfrifol am sicrhau bod pob agwedd ar y cynllun yn cydymffurfio. Gallai methu gwneud hynny arwain at beidio talu grant neu adfer grant a dalwyd.
Croesawir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu’r llall eu trin yn gyfartal.
Sylwer na ddylai’r gwariant gychwyn cyn rhoi cymeradwyaeth, gan na ellir dyfarnu’r grant mewn ffordd ôl-weithredol.
Tudalen nesaf: Proses Asesu
Tudalen flaenorol: Gwariant Anghymwys