Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Refeniw

  1. Astudiaethau dichonolrwydd, cynlluniau cysyniad neu gymorth proffesiynol arall er mwyn pennu cysyniad prosiect
  2. Eitemau offer bach a fydd yn arwain at gynnydd mewn gweithgarwch cymunedol
  3. Rhaglenni ymgysylltu cymunedol sy’n arwain at ddatblygiad prosiect ehangach, gan gynnwys peilota syniadau am brosiectau cymunedol
  4. Costau hyfforddiant, gan gynnwys lwfansau a threuliau teithio
  5. Prynu hysbysebu, Deunyddiau Marchnata a chostau cyhoeddusrwydd
  6. Cymorth gyda Chyfryngau Cymdeithasol gan gynnwys datblygu gwefan a datblygu e-fasnach
  7. Cost llogi lleoliad

Mae eitemau a brynir gan ddefnyddio cardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod tystiolaeth o swm y gwariant sy’n gysylltiedig â’r grant ar fil y cerdyn credyd adeg hawlio’r grant.

Mae costau prynu offer ail law yn gymwys i gael grant dan yr amodau canlynol: -

  • Bydd gwerthwr yr offer yn rhoi datganiad yn nodi ei darddiad, gan gadarnhau nad yw wedi cael ei brynu gan ddefnyddio cymorth grantiau cenedlaethol neu Ewropeaidd ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd flaenorol
  • Ni fydd pris yr offer yn uwch na’i werth yn y farchnad a bydd yn costio llai na chost offer newydd tebyg, a
  • Bydd yr offer yn meddu ar y nodweddion technegol angenrheidiol er mwyn gweithredu a chydymffurfio â normau a safonau perthnasol, e.e. Iechyd a Diogelwch
  • Ystyrir pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion, fodd bynnag, bydd gofyn cael anfoneb e.e. Facebook Marketplace, ac ati

Tudalen nesaf: Gwariant Anghymwys

Tudalen flaenorol: Pwy sy'n gallu ymgeisio?