
2. Faint o gyllid sydd ar gael?
Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 70% o’r costau cymwys. Isafswm y cymorth ar ffurf grant fydd £1,000 a hyd at £50,000.
Rhaid i arian cyfatebol fod yn arian parod (nid cyfraniadau ‘o fath arall’). Mae’n bwysig nodi y telir grantiau dan drefniant ôl-weithredol, rhaid bod ymgeiswyr yn gallu talu am yr eitem(au) yn llawn ymlaen llaw ac yna hawlio gwerth y grant yn ôl gan Gyngor Sir Ceredigion trwy ddilyn y broses hawlio.
Mae modd ystyried grantiau sy’n werth dros £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau sy’n esiamplau clir o arloesedd, Ymchwil a Datblygu a/neu brosiectau diogelu at y dyfodol sy’n gysylltiedig â Strategaeth Economaidd Ceredigion a Chynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Rhoi Hwb i Economi Ceredigion - Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2020-35
Tyfu Canolbarth Cymru - Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Tudalen nesaf: Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Tudalen flaenorol: Cyflwyniad i Gronfa Gymorth a Datblygu Cymunedol Cynnal y Cardi