Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2022-2025

Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd.

Cefnogi cymunedau a busnesau lleol yng Ngheredigion

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy ond arloesol i fynd i’r afael a rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi a ariennir gan Lywodraeth y DU, wedi’i yrru gan Ffyniant Bro.

Mae’r ddwy gronfa yn cynnig cyfleoedd cyllid sy’n ail-agor ar Ddydd Iau, 1af o Chwefror, 2024: Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol a Chronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau Ceredigion.

Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol – Caiff y cynllun ei gyflawni drwy ddau ddull:

  1. Cynllun Grant Bach £1,000 - £10,000
  2. Cynllun Grant Mawr mwy £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan gynnwys;

  • Cynorthwyo pobl, busnesau a chymunedau lleol i gynnig atebion cynaliadwy ond arloesol er mwyn mynd i’r afael a rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu eu hardaloedd gwledig, a chael pobl i gymryd rhan yn y gwaith hwnnw
  • Treialu ffyrdd newydd o weithio
  • Galluogi cymunedau i fuddsoddi ac adfer mannau cymunedol a pherthnasoedd
  • Creu'r sylfeini ar gyfer datblygiad economaidd ar lefel cymdogaeth
  • Cefnogi cymunedau gan alluogi pobl i fod eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt

Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar;

  • Seilwaith newydd ar gyfer cymunedau a chymdogaethau, neu welliannau i seilwaith sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol
  • Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn, sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a chrwydro o’i hamgylch
  • Rhoi prawf ar ddulliau treialu ac astudiaethau dichonoldeb
  • Cymorth ar gyfer gweithgareddau lleol ym maes y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd
  • Buddsoddi yn y gwaith o feithrin capasiti a chefnogi seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol gan gynnwys cynllunio olyniaeth
  • Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael a thlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd
  • Buddsoddi mewn seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol a chynnig cymorth ar gyfer seilwaith o’r fath

Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau Ceredigion - Caiff y cynllun ei gyflawni drwy ddau ddull

  1. Grantiau Busnes Bach £1,000 - £10,000
  2. Grantiau Datblygu Busnes £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Nod y gronfa hon yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi drwy rwydweithiau lleol.

Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan gynnwys;

Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth

  • Cynorthwyo entrepreneuriaid Newydd gyda’u dyheadau i ddechrau busnes
  • Cynorthwyo busnesau sy’n bodoli eisoes gyda’u cynlluniau i dyfu
  • Hwyluso a chynhorthwy’r sector mentrau cymdeithasol i fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael iddynt
  • Meithrin cydnerthedd a gwybodaeth mewn busnesau, yn enwedig yng nghyswllt datgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a chymorth digidol

Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar;

  • Gweithgarwch ym maes entrepreneuriaeth
  • Cynorthwyo datblygiadau sy’n galluogi busnesau i ddechrau a thyfu
  • Cynorthwyo I hybu arloesi a’r agenda o ran sgiliau ar gyfer busnesau bach a chanolig a busnesau newydd, er mwyn sefydlu’r amodau i greu swyddi sydd â gwerth uwch yn yr economi
  • Cynorthwyo busnesau lleol i fanteisio ar dechnoleg ddigidol
  • Cynorthwyo I atgyfnerthu gwaith datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni i fusnesau
  • Cyllid I gynorthwyo gwaith comisiynu / asesu dichonoldeb strategol perthnasol
  • Creu Canolfannau Menter er mwyn galluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio

Yn y cyfamser, i sicrhau eich bod yn gymwys danfonwch grynodeb byr yn amlinellu'ch syniadau (fformat pwynt bwled) a dadansoddiad o'r gwariant at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Sut i Wneud Cais:

Dylai pob ymgeisydd lawr lwytho ffurflen gais a'r ddogfen ganllaw. Sgroliwch i lawr am ddolenni i'r rhain a dogfennau atodol.

Anfonwch eich ceisiadau wedi'u cwblhau i ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Pecyn Gais a Dogfennau Atodol

I gael rhagor o wybodaeth am y manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.