Skip to main content

Ceredigion County Council website

Bwrw golwg: Adfywio’r Promenâd

Sut olwg fydd arno? 

Dym argraff artist o'r promenâd wedi'i adfywio. Mwy o luniau i ddilyn. 

Pryd fydd y prosiect ar waith?

Dyma linell amser o gerrig milltir allweddol y prosiect:

  • Hydref 2024: Gwaith adeiladu yn dechrau
  • Hydref 2024 - Chwefror 2025: Teras Y Ro Fawr hyd at Gyffordd Tan-y-Cae
  • Ionawr 2025 – Haf 2025: Cyffordd Tan-y-Cae hyd at Heol y Wig
  • Tachwedd 2024 – Haf 2025: Gosod goleuadau stryd o’r Ro Fawr hyd at Heol y Wig. I’w gosod fesul cam yn dilyn y prif waith
  • Gaeaf 2024/25: Lanterni a bracedi golau’r stryd i’w ailosod o Graig-glais hyd at Heol y Wig
  • Gaeaf 2024/25: Gosod Pontydd Troed ger y Castell

Beth am barcio?

Wrth i’r gwaith ddechrau mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio Talu ac Arddangos Aberystwyth a welir yma ac ystyried y dewisiadau o ran Tocynnau Tymor a welir yma.

Atebion Parcio at y dyfodol

Fel rhan o'r cynllun hirdymor bydd mwy o leoedd parcio ar gael mewn mannau eraill yn y dref. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'r datblygiad fynd rhagddo.

Diweddariadau

16.10.24: Dechreuodd y gwaith ar Bromenâd Aberystwyth ar 9 Hydref 2024. Mae Tregaron Trading Services Ltd (TTS) wedi sefydlu cyfleusterau lles ac ardal storio ger Y Ro Fawr a Heol Minafon. Canolbwyntiodd y gwaith adeiladu cychwynnol ar osod cyrbau rhwng Stryd y Cei a Y Ro Fawr, ac mae amlinelliad y mannau parcio newydd i'w gweld erbyn hyn. Mae gwaith rheoli traffig a rhwystrau wedi cael eu gosod ar gyfer y gwelliannau sydd ar ddod i'r cyrb a'r droedffordd. Yr wythnos nesaf, bydd gwaith cyrb a throedffordd yn parhau, a bydd paratoadau ar gyfer gosod goleuadau stryd newydd yn dechrau.

 

#
#
#
#
#

Rhoddir diweddariadau rheolaidd ynglŷn â hynt y prosiect ar y dudalen hon.

Os hoffech gael eich hysbysu pan fydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru, anfonwch eich manylion cyswllt at PromAber@ceredigion.gov.uk i'w hychwanegu at ein rhestr bostio.