Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Caru'ch Cymuned 2026

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer categori Caru’ch Cymuned 2026.

Bydd gwobrau Caru'ch Cymuned yn cydnabod ac yn dathlu gwaith cymunedol trefi a phentrefi ledled Ceredigion wrth gadw eu cymuned yn daclus, trefnu digwyddiadau a darparu gwasanaethau i bobl yr ardal. Mae cymunedau mawr a bach yn cael eu hannog i gyflwyno cais drwy lanw’r ffurflen datgan diddordeb.

Nod ymgyrch Caru'ch Cymuned yw meithrin a dathlu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau sy'n gwella'r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol.

Mae tri chategori yn y gystadleuaeth ar gyfer Gwobrau 2026.

Tabl o'r categorïau yn y gystadleuaeth
Pentref bach Pentrefi sydd â llai na 5 o gyfleusterau
Pentref Pentrefi unigol, ardal benodol o fewn ardal Cymuned neu Gyngor Tref sydd â 5 neu fwy o gyfleusterau
Tref Trefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron yn unig. h.y. trefi sydd â chynllun tref

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datgan diddordeb yw hanner nos, dydd Llun, 8fed o Fehefin 2026.

Ffurflen Datgan Diddordeb

Dyddiad cau i gyflwyno Ffurflenni Cais Llawn gyda thystiolaeth ategol yw hanner nos Dydd Llun, 7 Medi 2026.

Darllenwch drwy’r nodiadau canllaw cyn dechrau ar y ffurflen gais, bydd y wybodaeth yn y nodiadau canllaw o gymorth i chi.