Mae llawer o grwpiau megis grwpiau cymunedol, dosbarthiadau wythnosol neu glybiau anffurfiol, bellach yn gweithredu ar-lein.
Ers COVID-19, mae llawer wedi sefydlu “Grwpiau Cymunedol Rhithwir” i gadw cymunedau'n gysylltiedig. Mae yna lawer o wahanol lwyfannau y gallech chi eu defnyddio.
Rydym wedi llunio ychydig o ganllawiau cam wrth gam ar gyfer rhai o'r llwyfannau mwyaf poblogaidd:
- WhatsApp – Mae'r ap digidol hwn, a ddefnyddir yn bennaf ar ffonau clyfar, yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon testun a negeseuon llais, gwneud galwadau llais a fideo, a rhannu delweddau, dogfennau, lleoliad defnyddwyr, a chyfryngau eraill - Cyfarwyddiadau WhatsApp
- Zoom - Dyma un o'r cymwysiadau meddalwedd am ddim mwyaf poblogaidd ledled y byd. Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teleweithio, addysgu o bell, a chysylltiadau cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer cynadleddau busnes ond gellir ei ddefnyddio hefyd i sgwrsio â theulu a ffrindiau, a hynny am ddim am hyd at 40 munud ar y tro - CyfarwyddiadauZoom
- Google Hangouts - Mae Hangouts yn caniatáu sgyrsiau rhwng dau neu fwy o ddefnyddwyr. Gellir cyrchu'r gwasanaeth ar-lein drwy wefannau Gmail neu Google+, neu drwy apiau symudol sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS - CyfarwyddiadauGoogleHangouts
- Skype - Mae hwn yn ap telathrebu sy'n arbenigo mewn darparu sgwrs fideo a galwadau llais rhwng cyfrifiaduron, llechi, dyfeisiau symudol, consol Xbox One, ac oriawr glyfar dros y rhyngrwyd. Mae Skype hefyd yn darparu gwasanaethau negeseua gwib. Gall defnyddwyr drosglwyddo testun, fideo, sain a delweddau - CyfarwyddiadauSkype
- Canllawiau ar gyfer ailagor Canolfannau Cymunedol yng Nghymru
- Diweddariad ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 23 Ebrill 2021
- Diweddaraf ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 07 Rhagfyr 2020
- Diweddaraf ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 09 Tachwedd 2020
- Diweddaraf ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 23 Hydref 2020
- Diweddaraf ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 02 Hydref 2020
- Diweddaraf ar gyfer Lleoliadau Cymunedol 26 Awst 2020
Cyngor ar lanhau
Templed Asesiad Risg a Rhestr Gwirio
- Asesiad Risg COVID-19 Ail-agor Adeiladau Canolfannau Cymunedol yn Ceredigion
- Asesiad Risg COVID-19 ar gyfer y sawl sy’n Llogi Canolfannau Cymunedol yn Ceredigion
- Rhestr Wirio Asesiad Risg COVID-19 ar gyfer Adeiladau-Canolfannau Cymunedol
Deunyddiau y gellir eu lawrlwytho
- Ewch i dudalen Cefnogi Economi Ceredigion, a chliciwch ar 'deunyddiau y gellir eu lawrlwytho'.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyflenwi stoc o gynnyrch mislif, gan gynnwys cynhyrchion cynaliadwy, i grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector iddynt fod ar gael i bobl yn ein cymunedau.
Os ydych chi'n grŵp neu'n sefydliad cymunedol ac yr hoffech ofyn am stoc neu ail-lenwi stoc, cysylltwch â Porth y Gymuned trwy e-bostio porthygymuned@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 574200, lle gallwn gyflenwi stoc o gynhyrchion i chi er mwyn i chi allu dosbarthu o fewn eich cymunedau.