Gwobrau Caru Ceredigion 2024
Mae Gwobrau Caru Ceredigion 2024 yn ddathliad o’r goreuon o blith ein cymunedau a’n busnesau.
Fe’u cynhelir ar Fferm Ysgubor @ Bargoed (Moody Cow), Llwyncelyn, a bydd y gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr ar gau, gallwch ddarganfod pa fusnes neu sefydliad sydd ar y rhestr fer drwy gadw llygad barcud ar ein tudalen Newyddion.
A hithau’n un o ardaloedd mwyaf prydferth ac unigryw’r wlad, mae gwaith gwych yn digwydd yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a dylid dathlu hyn. Edrychwn ymlaen at gydnabod gwaith arloesol, blaengar ac ysbrydoledig ein trigolion a’n busnesau, wrth helpu i hybu ysbryd o gydweithio a balchder cymunedol. Pob lwc!
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau oedd dydd Mercher 13 Tachwedd 2024.
I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'ch cais wedi'u cynnal rhwng 1 Ionawr 2023 a 1 Tachwedd, 2024.
Meini Prawf y Barnwyr
Meini Prawf y BarnwyrNewyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Newyddion Gwobrau Caru CeredigionEnillydd Gwobr Caru Ceredigion Awards
Sion Jones, Cigydd Sion Jones Butcher
Enillydd Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn (Mawr)
JDS Machinery Rali Ceredigion
Gwobr Digwyddiad Mawr y FlwyddynEnillydd Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn (Cymunedol)
Gŵyl Grefft Cymru - Craft Festival Wales
Gwobr Digwyddiad Cymunedol y FlwyddynEnillydd Gwobr Prentis y Flwyddyn
Jason Vale (Needle Rock | Remarkable Upholstery)
Gwobr Prentis y Flwyddyn