Polisi Dyrannu Cyffredinol
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 15 Tachwedd 2024.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn cytundeb â'n phartneriaid - Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Barcud, Caredig a Thai Wales and West, yn gweithredu Polisi Dyrannu Cyffredinol.
Mae hyn yn golygu bod ceisiadau ar gyfer pob tŷ cymdeithasol, gwaeth pwy yw'r landlord, yn cael eu gwneud i'r Cyngor drwy ein gwefan Opsiynau Tai Ceredigion. Mae pob uned tai cymdeithasol yng Ngheredigion yn cael eu dyrannu gan Landlord yr eiddo yn unol â'r polisi hwn.
Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'i bartneriaid i adolygu'r Polisi Dyrannu Cyffredinol ar y cyd. Mae'r galw cynyddol am Dai Cymdeithasol ynghyd â'r awydd i gynnal a chryfhau cymunedau lleol wedi ein harwain i gynnal adolygiad trylwyr o'r ffordd y mae tai yn cael eu dyrannu yn y Sir. Mae amgylchiadau wedi newid ac mae angen adlewyrchu hyn mewn polisi dyraniadau diwygiedig.
Darllenwch ein Polisi Dyraniadau Cyffredin drafft a rhowch eich adborth i ni erbyn 15 Tachwedd 2024.
Mae cwestiwn 9 o'n harolwg yn cyfeirio at aelwydydd sy'n byw ar ein ffin. Mae'r map hwn yn dangos y pentrefi perthnasol.
Sut i gymryd rhan
Llanwch ein harolwg ar-lein trwy Microsoft forms
Lawr lwythwch gopi papur o'r arolwg
Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Tai, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol. Hefyd, mae modd gwneud cais am gopi papur drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes angen copi o'r Polisi Dyrannu Cyffredin Drafft a'r arolwg ymgynghori mewn fformat arall fel Hawdd ei Ddarllen, ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch localhousingstrategy@ceredigion.gov.uk
I ddarllen sut mae'r Cyngor yn casglu, defnyddio a chadw unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, ewch i'r Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ar ein gwefan.
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld uchod.