Beth yw Digwyddiad Casineb neu Drosedd Casineb?

Trosedd neu ddigwyddiad a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi neu oherwydd bod rhywun yn tybio ei fod yn gwybod pwy ydych chi. Yn syml, pe bai rhywun neu grŵp o bobl yn eich targedu oherwydd eich oed, anabledd, rhywioldeb, crefydd, ethnigrwydd, rhywedd (gan gynnwys eich hunaniaeth o ran rhywedd) neu’ch ffordd o fyw (e.e. Goth) neu’n troseddu yn eich erbyn, yn eich bwlio neu’n eich aflonyddu, dyna yw trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb.

Gallai gynnwys:

  • Cam-drin geiriol
  • Graffiti sarhaus
  • Ymddygiad bygythiol
  • Difrod i eiddo
  • Ymosodiad
  • Bwlio seiber
  • Negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn ymosodol
  • Dwyn arian oddi wrthych

Pam y mae mor bwysig i adrodd am drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb?

Nid ydym yn cael gwybod am ddigon o ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb. Mae angen i ni ddeall y broblem er mwyn i’r penderfyniadau cywir gael eu gwneud i’ch atal chi neu aelod o’ch teulu neu’ch ffrindiau chi rhag dod yn ddioddefwr.

Heb wybod bod y problemau hyn yn digwydd, ni allwn eu hatal rhag digwydd i chi neu rywun arall. Mae adrodd am y materion hyn yn ein helpu ni a sefydliadau eraill i fesur maint y broblem yn eich ardal leol CHI ac i wneud y pethau iawn i sicrhau bod eich cymuned chi yn lle gwell, mwy diogel i fyw a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael.

Mae’r cymorth cywir yn golygu y gallwn atal dioddefwyr rhag teimlo ar eu pennau eu hunain, yn isel, yn ofnus, mewn trallod neu hyd yn oed yn waeth, cymryd eu bywyd eu hunain.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr adroddiadau am ddigwyddiadau casineb a throseddau casineb ledled Cymru ac i gynnig cymorth i ddioddefwyr y troseddau hyn.

Trwy weithio gyda sefydliadau eraill megis yr Heddlu, gall Cymorth i Ddioddefwyr fod yn rhagweithiol yn atal rhagor o droseddau casineb trwy ymyriadau lleol a chenedlaethol sydd wedi’u targedu.

Os yw Cymorth i Ddiddefwyr yn ymwybodol o'r materion hyn yn ystod y camau cynharaf, gallwn sicrhau'r cymorth cywir yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn i atal y newid mae'r troseddau hyn yn ei achosi rhag cynyddu. Felly, os ydych chi'n ddioddefwr neu'n dyst, trwy adrodd am y drosedd i Gymorth i Ddioddefwyr rydych yn ein helpu ni i helpu eraill.

Mae’r cymorth wedi’i deilwra at anghenion pob dioddefwr a gallai gynnwys:

  • Cymorth emosiynol
  • Ymarferol
  • Eiriolaeth
  • Cyawnder adferol

Gallwn hefyd roi cymorth i chi i adrodd am y drosedd i’r Heddlu a mynd i’r llys, ond nid oes pwysau arnoch i wneud hyn.

Hyd yn oed os nad oes arnoch angen y cymorth eich hun, mae’n bwysig i ni wybod pa droseddau sy’n digwydd a lle a phryd.

Sut i roi gwybod am drosedd?

  • Galwch 999 mewn argyfwng, os yw bywyd yn cael ei fygwth, os oes unigolion wedi’u hanafu, os yw troseddwyr gerllaw, neu os oes angen gweithredu di-oed
  • Galwch 101 i roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad difrys. Os oes trosedd eisoes wedi digwydd, neu er mwyn rhoi gwybodaeth am drosedd
  • Ffoniwch 0300 30 31 982 (24/7 am ddim) i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Mae galwadau'n cael eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych yr opsiwn i aros yn ddienw
  • Gallwch hefyd adrodd ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk (gallwch adrodd yn Gymraeg neu’n Saesneg un unol a’ch dewis iaith)