Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cerdyn Gofalwyr Ceredigion

Mae'r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod sy'n cynnwys llun, a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion i Ofalwyr sy'n 18 oed a throsodd, sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Cyngor Sir Ceredigion ac sy'n gofyn am gael cerdyn Gofalwr.

Rhoddir Cerdyn Gofalwr Ifanc i Ofalwyr o dan 18 oed sy'n gofyn am gerdyn.

Mae'r Cerdyn Gofalwr yn cadarnhau bod yr unigolyn a ddangosir ar y cerdyn yn Ofalwr a bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu.

Ymgeisiwch am Gerdyn Gofalwr

Gallwch wneud cais am Gerdyn Gofalwr trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein islaw. Bydd angen i chi lanlwytho llun o'ch hun i'w ddefnyddio ar y cerdyn.

Ffurflen Gais Cerdyn Gofalwyr

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os byddaf yn ei chael hi'n anodd, neu os bydd angen help arnaf i wneud cais am Gerdyn Gofalwr Ceredigion?

Os nad ydych chi'n gallu troi at y rhyngrwyd er mwyn gwneud cais ar-lein am y Cerdyn Gofalwr neu os bydd angen help arnoch wrth wneud cais am y Cerdyn Gofalwr, gallwch ffonio Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 gan ofyn am help. Gallwch anfon e-bost at Dîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol hefyd, cysylltu@ceredigion.gov.uk er mwyn gofyn am help. Wrth anfon neges e-bost, nodwch eich rhif ffôn hefyd er mwyn i ni allu datrys y mater yn gyflym.

Faint o amser y bydd fy Ngherdyn Gofalwr yn ei gymryd cyn fy nghyrraedd?

Byddwn yn anfon eich cerdyn atoch yn y post, ac fe ddylai gyrraedd cyn pen 21 diwrnod gwaith.

Ar gyfer pwy y mae'r Cerdyn Gofalwr?

Mae'r Cerdyn Gofalwr ar gyfer Gofalwyr. Mae Gofalwr yn rhywun sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu, nad ydynt yn gallu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd bod ganddynt anabledd, salwch corfforol neu feddyliol neu eu bod yn cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau neu alcohol.

Gallwch wneud cais am y Cerdyn Gofalwr os ydych chi neu'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn byw yng Ngheredigion.

Nid yw'r Cerdyn Gofalwr ar gyfer gweithwyr gofal sy'n darparu gofal i bobl fel eu gwaith am dâl.

Beth yw diben y Cerdyn Gofalwr?

Lansiwyd y Cerdyn Gofalwr er mwyn ymateb i geisiadau gan Ofalwyr yn ystod pandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cynnar y pandemig, roedd nifer o Ofalwyr wedi cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am rywun.

Mae'r Cerdyn Gofalwr yn dangos bod deiliad y cerdyn yn Ofalwr. Gallwch ddefnyddio'r cerdyn i ddangos bod gennych chi gyfrifoldebau gofalu.

A fyddech cystal â lanlwytho llun (ffoto o’r pen a’r ysgwyddau) o ansawdd da ohonoch eich hun i’w ddefnyddio ar y cerdyn. Gallwch ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind i gymryd llun ar ffôn neu ddyfais arall. Ni ddylai maint eich llun fod dros 2MB os ydych yn ei lanlwytho ar-lein.

Os nad ydych yn gallu lanlwytho eich llun, anfonwch lun mewn neges e-bost at cysylltu@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 i gael help wrth gyflwyno llun.

Gallwch bostio llun neu anfon llun mewn neges e-bost, gan ddefnyddio manylion y cyfeiriadau a nodir ar ddiwedd y ffurflen hon. Os byddwch yn postio llun, rhaid i chi nodi’ch enw a’ch dyddiad geni ar gefn eich llun.

Dylai’r llun:

  • fod yn llun lliw a dynnwyd yn ddiweddar
  • bod yn llun ohonoch chi yn unig (dim pobl arall nac anifeiliaid anwes)
  • bod wedi cael ei dynnu yn erbyn cefndir golau
  • eich dangos chi yn wynebu ymlaen a dylai’ch pen a’ch ysgwyddau fod yn y llun
  • dangos eich wyneb llawn
  • eich dangos chi yng nghanol y llun
  • os ydych chi’n gwisgo sbectol, dylai ddangos eich llygaid yn glir, gan osgoi llewych ar y lensys

Dylech fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau canlynol.

Ni ddylech:

  • wisgo het neu orchudd pen oni bai bod hynny am resymau meddygol neu grefyddol
  • cyflwyno llun lle y mae’r llygaid yn goch
  • cyflwyno llun lle yr ydych chi yn y pellter neu lle y mae modd gweld pobl arall
  • cyflwyno delweddau amhriodol neu anweddus
  • cyflwyno llun yr ydych chi wedi’u olygu er mwyn newid eich ymddangosiad neu sy’n defnyddio hidlydd
  • cyflwyno delwedd o rywun arall neu ddelweddau wedi’u diogelu gan hawlfraint

Fformat y ffeil

Dylai’r ddelwedd fod yn ffeil .jpg neu jpeg a dylai fod yn llai nag 2MB.

Mae'r Cerdyn Gofalwr yn rhywbeth newydd i Geredigion ac rydym yn gweithio gyda busnesau lleol a sefydliadau eraill er mwyn pennu'r buddion a'r gostyngiadau y bydd y Cerdyn Gofalwr yn eu cynnig i chi.

Mae'r buddion a'r gostyngiadau a restrir isod ar gael i ddeiliaid y Cerdyn Gofalwr ar hyn o bryd. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru pan fydd buddion neu ostyngiadau newydd ar gael.

Aelodaeth o'r gampfa am ddim

Mae gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion yn cael mynediad diderfyn ac am ddim i gyfleusterau hamdden a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Byddwch yn gallu manteisio ar:

  • Ystafell Ffitrwydd
  • Nofio (nawr yn cynnwys Llandysul, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Phlascrug)
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd
  • Chwarae Meddal (Plascrug yn unig)

Rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Gofalwr yn y ganolfan hamdden er mwyn gallu manteisio ar y buddion hyn.

Sylwch: mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol i rywfaint o'r offer, y dosbarthiadau a'r cyfleusterau yn y canolfannau hamdden, holwch staff y ganolfan hamdden os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn.


Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi

Mae Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi yn cynnig pris mynediad rhatach i ddeiliaid Cerdyn Gofalwyr Oedolion a Cherdyn Gofalwyr Ifanc.

Mae Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi yn fferm deuluol sydd â rhywbeth i'r teulu cyfan ei fwynhau. Gallwch weld a bwydo'r anifeiliaid fferm cyfeillgar, mynd am dro ar hyd y clogwyn i fwynhau'r golygfeydd godidog a'r bywyd gwyllt, neu fanteisio ar yr ardal chwarae awyr agored.

Gallwch ddod o hyd i'r oriau agor, prisiau tocynnau rhatach a'r holl delerau ac amodau ar wefan Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi . Sylwch fod pris mynediad i ofalwyr yr un fath â'r cyfraddau mynediad ar gyfer oedolion anabl a phlant . I dderbyn y gostyngiad hwn, mae'n rhaid i chi gyflwyno eich Cerdyn Gofalwr Ceredigion.


Silver Mountain – Tocynnau Rhatach

Mae’r Silver Mountain Experience yn cyfuno hanes a chwedloniaeth i greu diwrnod allan llawn hwyl. Gallwch chi ddewis o blith arlwy o deithiau tywys i ddarganfod hanes y mwynglawdd arian diddorol hwn, neu weld ein chwedlau’n dod yn fyw yn ystod perfformiadau o dan arweiniad actorion.

Gall deiliaid Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion gael tocynnau rhatach. Mae’r cynnig hwn yn ddibynnol ar argaeledd ac ar delerau ac amodau lleol.

Ewch i wefan y Silver Mountain Experience i gael mwy o fanylion. Pan fyddwch chi’n archebu tocyn ar-lein, dewiswch docyn person hŷn/myfyriwr.

Sylwch: Bydd angen i chi ddangos eich Cerdyn Gofalwr a/neu Gerdyn Gofalwr Ifanc pan fyddwch chi’n cyrraedd.


Fferm Denmark – gostyngiad o 10% oddi ar bris gweithdy diwrnod

Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn warchodfa natur 40 erw â chyfoeth o fywyd gwyllt. Mae croeso i bawb sy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac ym myd natur fynd yno AM DDIM.

Mae Fferm Denmark hefyd yn cynnal gweithdai diwrnod sy’n amrywio o blethu basgedi a pheintio byd natur i eplesu a gwneud siocled.

Gall deiliaid Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion gael gostyngiad o 10% oddi ar bris llawn detholiad o weithdai diwrnod. Ewch i wefan Fferm Denmark i gael mwy o fanylion, neu ffoniwch 01570 493358 yn ystod oriau swyddfa.

Sylwch: Mae’r cynnig hwn yn ddibynnol ar argaeledd ac ar delerau ac amodau lleol. Bydd rhaid i oedolyn fynd gydag unrhyw un o dan 18 oed, a bydd angen i chi ddangos eich Cerdyn Gofalwr a/neu Gerdyn Gofalwr Ifanc pan fyddwch chi’n cyrraedd.


Theatr Felin Fach - 10% i ffwrdd o bris llawn tocyn

Mwynhewch 10% i ffwrdd o bris llawn eich tocyn trwy gyflwyno eich Cerdyn Gofalwr Ceredigion.

Ewch i wefan Theatr Felin Fach i weld eu rhaglen digwyddiadau.


Cynnig golff

Mae Clwb Golff Borth ac Ynyslas yn falch i gynnig cyfle i ofalwyr di-dâl i chwarae golff ar eu cwrs ar gyfradd o £30 y pen.

Gellir archebu amseroedd te drwy'r Siop Pro yn bersonol neu drwy ffonio 01970 871557.

Cofiwch ddod â'ch Cerdyn Gofalwr gyda chi. Mae'n rhaid i chi allu cyflwyno'ch cerdyn i gael mynediad at y cynnig hwn.


Cadw - Gostyngiad o 10% oddi ar bris mynediad

Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yw Cadw, ac mae’n gyfrifol am ofalu am ein mannau hanesyddol sy’n ein hysbrydoli ni heddiw ac a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae gennym rai o'r cestyll gorau yn y byd yng Nghymru, a rhai o'r harddaf hefyd. Mae gennym abatai, eglwysi a chapeli a rhai o'r henebion mwyaf hudolus y mae ymwelwyr wedi bod yn chwilio amdanynt ers miloedd o flynyddoedd.

Mae gennym henebion sy'n ein hatgoffa o’n treftadaeth falch fel un o wledydd diwydiannol cyntaf y byd, a safleoedd sy'n adrodd straeon ein tywysogion canoloesol.

O 1 Ebrill 2023, cewch ostyngiad o 10% oddi ar bris mynediad rhai o atyniadau ymwelwyr gorau Cymru drwy ddangos Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion.

Gallwch ddarllen mwy am Cadw ar wefan Cadw (Ddolen i wefan allanol).


Rheilffordd y Graig, Aberystwyth - Teithio am ddim

Ar ben gogleddol promenâd Aberystwyth, mae Craig Glais yn codi’n ddramatig o’r môr. O’r copa, ceir golygfeydd trawiadol di-dor dros y dref a Bae Ceredigion. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld 26 copa ar hyd a lled rhan helaeth o Gymru.

Y ffordd fwyaf hamddenol o fwynhau’r olygfa odidog hon yw drwy deithio ar drên ar reilffordd halio drydan hiraf Prydain. Mae’r rheilffordd wedi bod yn cludo ymwelwyr ers iddi agor yn 1896.

O 1 Ebrill 2023, cewch deithio am ddim ar hyd Rheilffordd y Graig drwy ddangos Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys oriau agor Rheilffordd y Graig ewch i wefan Rheilffordd y Graig (Ddolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).


Llanerchaeron - Mynediad am ddim (£9 i oedolion a £4.50 i blant fel arfer)

Dewch i ddarganfod fila Sioraidd gain Llanerchaeron, ynghyd â gardd furiog, buarth fferm, llyn a thir parc gwyllt. Ac yntau wedi’i gynllunio gan y pensaer enwog, John Nash, yn y 1790au, nid yw’r tŷ wedi newid fawr ddim ers dros ddwy ganrif.

  • Ewch i grwydro cwrt y gweision
  • Ewch am dro hamddenol o amgylch yr ardd â mur o frics coch o’i hamgylch, y llyn addurniadol, a’r parcdir gwyllt
  • Ewch i’r buarth traddodiadol i gwrdd ag anifeiliaid fferm, gan gynnwys cobiau Cymreig, moch cynhenid, dofednod a gwyddau

Rhaid i chi ddangos Cerdyn Gofalwr neu Gerdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion i gael mynediad am ddim i Lanerchaeron.

I gael mwy o wybodaeth am Lanerchaeron, gan gynnwys yr oriau agor, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Ddolen i wefan allanol).


Prawf o rôl gofalu wrth ofyn am frechiadau am ddim rhag y ffliw

Mae gofalwyr yn gymwys i gael brechiad am ddim rhag y ffliw. Gellir defnyddio'r Cerdyn Gofalwr fel prawf o'ch rôl gofalu er mwyn hawlio'ch brechiadau am ddim rhag y ffliw. Gallwch ofyn i'ch meddygfa am eich brechiad am ddim rhag y ffliw neu eich fferyllfa leol (nid yw pob fferyllfa yn cynnig brechiadau rhag y ffliw).


Sesiynau hyfforddiant am ddim gyda Dysgu Bro

Mae Dysgu Bro yn darparu amrediad o gyfleoedd dysgu i oedolion megis cyrsiau i wella sgiliau TG a sgiliau digidol i gyrsiau ffordd o fyw a chreadigol. Bydd sesiwn gyntaf o unrhyw gwrs hyfforddiant wythnosol Dysgu Bro ar gael yn rhad ac am ddim i ddeiliad y Cerdyn Gofal. Am ragor o wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant, trowch at www.dysgubro.org.uk neu ffoniwch 01970 633540.


Eco Hub Aber - Gwasanaethau am hanner pris

Gwasanaethau am hanner pris gyda Cherdyn Gofalwr Ceredigion

  • Llogi e-feic (£25 am hanner diwrnod fel arfer)
  • Llogi man gweithio/desg boeth (£12 am hanner diwrnod fel arfer)
  • Ymaelodi ag Eco Hub Aber - gweler isod (£20 y mis fel arfer)

Er eich lles chi, beth am roi cynnig ar un o’n e-feiciau hybrid – y ffordd ddelfrydol o fwynhau’r awyr agored, gyda rhywfaint o hwb i’ch helpu i ddringo’r bryniau? Ewch am daith fer o amgylch eich bro, neu ewch am daith hirach i fwynhau byd natur ar hyd llwybr beicio cenedlaethol Llwybr Ystwyth (Dolen i wefan allanol).

Dewch i weithio mewn man gweithio naturiol, cyfeillgar a phroffesiynol gyda golygfa o’r môr - archebwch ddesg neu archebwch y man gweithio cyfan ar gyfer cyfarfodydd. Mae’r man gweithio wedi’i leoli yng nghanol y dref, ac mae Wi-Fi cyflym ar gael.

Os byddwch chi’n dewis ymaelodi, bydd hyn yn cynnwys e-feic am ddim am ddau hanner diwrnod, a desg boeth am ddim am ddau hanner diwrnod.

I archebu, llenwch y ffurflen “cysylltwch â ni” (Dolen i wefan allanol) neu anfonwch e-bost atom ni yn ecohubaber@gmail.com gan roi “Cysylltu Gofalwyr” ym mhwnc yr e-bost.

Menter gymdeithasol leol sydd wedi’i lleoli yn yr Arcêd, 5 Stryd y Baddon, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2DN yw Eco Hub Aber. Rydym yn lle sy’n darparu syniadau, cymhelliad a chymorth ar gyfer eco-weithredoedd lleol. “Gweithredu heddiw i ffrwyno’r newid yn yr hinsawdd”.


Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnig gostyngiad o 10% ar fwyd a diod sydd ar eu bwydlen yn y Caffi i Ddeiliaid Cerdyn Gofalwyr Ceredigion.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn, rhaid i chi gyflwyno eich Cerdyn Adnabod Gofalwr Ceredigion i'r Swyddfa Docynnau a gofyn am gerdyn disgownt o 10% y gellir ei ddefnyddio yng Nghaffi Canolfan y Celfyddydau.

Mae Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn le i fwynhau paned o goffi a chelf, cael tamaid cyflym cyn ffilm neu sioe, neu efallai gwrdd â ffrindiau.

Ewch i tudalen Eich ymweliad Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am amseroedd agor a hygyrchedd fel y gallwch gynllunio'ch ymweliad.

Sylwer: Mae'r cynnig hwn ar gael ar gyfer Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn unig ac mae'n amodol ar argaeledd a thelerau ac amodau lleol.

Mae angen prawf o Gerdyn Gofalwr Ceredigion a / neu Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc i gael eich cerdyn disgownt o 10% o'r swyddfa docynnau.

Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mae Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnig pris rhatach i ddeiliaid Cerdyn Gofalwyr Ceredigion ar gyfer tocynnau sioeau, sgrinio a digwyddiadau.

Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wedi ennill nifer o wobrau, a hwn yw’r ganolfan gelfyddydau fwyaf yng Nghymru a chaiff ei gydnabod am ei rôl genedlaethol blaenllaw yn cefnogi celfyddydau’r byd, y rhanbarth a lleol.

Mae'n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau fel theatr, dawns, opera, comedi, sioeau cerdd a sioeau ar gyfer y teuluol.

Ewch i tudalen Beth Sydd Ymlaen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am amseroedd agor, sioeau cyfredol, sgriniadau a digwyddiadau, a hygyrchedd fel y gallwch gynllunio'ch ymweliad.

Sylwer: Dim ond ar gyfer y Swyddfa Docynnau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth y mae'r cynnig hwn ar gael ac mae'n amodol ar argaeledd a thelerau ac amodau lleol. Bydd prisiau consesiynol yn amrywio gan dibynnu ar y math o ddigwyddiad.

Mae angen prawf o Gerdyn Adnabod Gofalwr Ceredigion a/neu Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc hefyd.


Cardigan Bay ActiveLogo Cardigan Bay Active

Mae Cardigan Bay Active yn darparu ystod eang o weithgareddau antur dan arweiniad, gan gynnwys teithiau canŵio, padl fyrddio, dringo, sesiynau gwyllt grefft, gwersi syrffio a llawer mwy, er mwyn i deuluoedd, oedolion a phlant eu mwynhau.

Maent yn cynnig gostyngiad o 10% ar holl brisiau eu gweithgareddau awyr agored i ddeiliaid Cerdyn Oedolion a Gofalwyr Ifanc. P'un a ydych chi'n chwilio am weithgareddau awyr agored gwefreiddiol neu gyfleoedd i weld golygfeydd godidog, mae’r lleoliadau unigryw hyn a thîm gwybodus Cardigan Bay Active yn arbennig wrth ddarparu profiadau ac atgofion gwych.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cardigan Bay Active sy’n cynnwys amserlen lawn o weithgareddau, prisiau, a sut i archebu lle. Mae telerau ac amodau lleol yn berthnasol. Local terms and conditions apply.


Llandysul Paddlers

Llandysul PaddlersMae Llandysul Paddlers yn cynnig gostyngiad hyd at 50% ar gyfer sesiynau llyn agored ar gyfer Oedolion a deiliaid Cerdyn Gofalwr Ifanc.

Mae’r sesiwn llyn yn rhoi cyfle i roi cynnig ar gaiacio, sefyll ar fwrdd padl a rafftiau aer. Mae’r cyfarpar i gyd yn cael eu darparu, yn ogystal â gwisg gwlyb (wetsuit), cymhorthion bwoi a helmedau..

Rhaid i blant dan 6 oed gael oedolion gyda hwy yn y dŵr.

Gweler wefan Llandysul Paddlers am fwy o wybodaeth.

I archebu sesiwn ffoniwch 01559 363209 neu e-bostiwch Lpbookings@aol.com.

  • Darparir y Cerdyn Gofalwr i Ofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sy’n byw yng Ngheredigion neu sy’n gofalu am rywun sy’n byw yng Ngheredigion.
  • Mae’r Cerdyn Gofalwr ar gael i aelodau’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr.
  • O bryd i’w gilydd, gall Cyngor Sir Ceredigion ofyn i’r sawl sy’n ymgeisio am Gerdyn Gofalwr ddarparu tystiolaeth o’i rôl fel gofalwr, er enghraifft llythyr dyfarniad Lwfans Gofalwr, llythyr oddi wrth feddyg neu unrhyw dystiolaeth briodol arall.
  • Mae’r Cerdyn Gofalwr yn ddilys am 2 flynedd o’i ddyddiad cyhoeddi. Y gofalwr sy’n gyfrifol am wneud cais i Gyngor Sir Ceredigion i adnewyddu’r cerdyn.
  • Rhaid cydymffurfio â’r amodau a thelerau hyn er mwyn defnyddio’r cerdyn.
  • Rhaid i ofalwyr y mae eu rôl gofalu wedi dod i ben hysbysu Cyngor Sir Ceredigion o’r ffaith nad ydynt yn Ofalwr mwyach, ond gallant barhau i ddefnyddio’r cerdyn am 3 mis pellach, yna bydd yn rhaid iddynt ddychwelyd y cerdyn i Gyngor Sir Ceredigion.
  • Mae manylion adnabod ffotograffig ar Gardiau Gofalwyr, ynghyd â chyfeirnod a dyddiad dod i ben. Defnyddir y Cerdyn Gofalwr at ddibenion adnabod a dylid ei ddefnyddio gan ddeiliad y cerdyn ar y cyd ag unrhyw ostyngiad neu wasanaeth a gynigir yn unig.
  • Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw’r hawl i newid ymddangosiad ac amodau’r Cerdyn Gofalwr, neu derfynu’r Cynllun Cerdyn Gofalwr ar unrhyw adeg.
  • Os ydych chi wedi colli eich Cerdyn Gofalwr, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 a bydd modd anfon cerdyn newydd atoch. Efallai y codir tâl bach am anfon cardiau newydd.
  • Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw’r hawl i newid amodau a thelerau’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig o leiaf 30 diwrnod cyn gwneud unrhyw newidiadau o’r fath, gan roi manylion i chi am y newidiadau a wnaethpwyd.

Rydw i'n Ofalwr, felly a oes yn rhaid i mi wneud cais am Gerdyn Gofalwr?

Nac oes, nid oes yn rhaid i chi wneud cais am Gerdyn Gofalwr os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Eich dewis chi ydyw.

Mae gen i Gerdyn Argyfwng Gofalwr yn barod, a yw'r cerdyn hwn yn ei ddisodli?

Nid yw'r Cerdyn Gofalwr yn disodli'r Cerdyn Argyfwng Gofalwr ar hyn o bryd, ond gallai hyn newid yn y dyfodol.

Os nad oes gennych chi Gerdyn Argyfwng Gofalwr neu gynllun wrth gefn, cysylltwch â Phorth Gofal Gofal Cymdeithasol ar 01545 574000 am ragor o wybodaeth.

A oes angen fy mod yn byw gyda'r unigolyn yr wyf yn gofalu amdanynt er mwyn gwneud cais am Gerdyn Gofalwr?

Nac oes, nid oes yn rhaid eich bod yn byw gyda'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt. Rhaid eich bod chi neu'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn byw yng Ngheredigion.

A oes angen i mi fod yn aelod o Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ceredigion er mwyn gwneud cais am Gerdyn Gofalwr?

Oes, mae angen i chi fod yn aelod o'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr er mwyn gwneud cais am Gerdyn Gofalwr. Gallwch ymuno â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr pan fyddwch yn gwneud cais am y cerdyn.

Nid ydw i'n cael Lwfans Gofalwr, a ydw i'n gallu gwneud cais am y cerdyn?

Ydych, rydych yn gallu gwneud cais am Gerdyn Gofalwr hyd yn oed os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr.

A yw'r Cerdyn Gofalwr ar gael am ddim?

Ydy, mae'r Cerdyn Gofalwr ar gael yn rhad ac am ddim.

Rydw i'n byw ar ffin Ceredigion, yn Sir Gaerfyrddin neu yn Sir Benfro, yn yr un modd â'r unigolyn yr wyf yn gofalu amdanynt, ond rydym yn defnyddio gwasanaethau yng Ngheredigion ac yn siopa yng Ngheredigion. A ydw i'n gallu gwneud cais am Gerdyn Gofalwr?

Yn anffodus, nid ydych yn gallu gwneud cais am Gerdyn Gofalwr yng Ngheredigion gan bod yn rhaid i chi neu'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt fod yn byw yng Ngheredigion er mwyn gwneud cais am Gerdyn Gofalwr. Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda Chynghorau Sir Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, manwerthwyr a darparwyr gwasanaeth er mwyn sicrhau bod cardiau sydd gan Ofalwyr ar draws rhanbarth Hywel Dda yn cael eu cydnabod yn yr un modd yn y dyfodol, a bod deiliaid cardiau yn gallu manteisio ar yr un buddion. Mawr obeithiwn y byddwn yn sicrhau cytundeb pawb i ddweud, os bydd gennych chi Gerdyn Gofalwr a gyhoeddwyd gan Gynghorau Sir Sir Benfro neu Sir Gaerfyrddin, y byddwch yn gallu manteision ar yr un buddion yng Ngheredigion ac y gall Gofalwr sy'n dal Cerdyn Gofalwr a gyhoeddwyd yng Ngheredigion, ac i'r gwrthwyneb.

Beth os nad wyf yn gofalu am rywun mwyach?

Os bydd eich rôl gofalu wedi dod i ben, rhaid i chi hysbysu Cyngor Sir Ceredigion o'r ffaith nad ydych yn Ofalwr mwyach. Gallwch barhau i ddefnyddio'r cerdyn am 3 mis pellach, yna bydd yn rhaid dychwelyd y cerdyn i Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Gofalwyr eraill yn fy aelwyd, a oes modd rhoi un cerdyn i aelwyd neu deulu?

Nac oes, rhaid i bob Gofalwr sy'n dymuno cael cerdyn wneud cais am eu cerdyn eu hunain.

Am ba mor hir y mae'r Cerdyn Gofalwr yn ddilys?

Mae'r Cerdyn Gofalwr yn ddilys am 2 flynedd a'ch cyfrifoldeb chi fel deiliad y cerdyn yw ei adnewyddu.

Beth y dylaf ei wneud pryd fydd fy Ngherdyn Gofalwr wedi dod i ben?

Os hoffwch adnewyddu eich Cerdyn Gofalwr anfonwch e-bost i cysylltu@ceredigion.gov.uk. Nodwch rif adnabod y Cerdyn Gofalwyr a bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich manylion, h.y. cyfeiriad neu rif cyswllt, wedi newid ers i’ch cerdyn gael ei gyhoeddi diwethaf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch

Gallwch gysylltu â Thîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod am ragor o wybodaeth:

Ffôn: 01545 574200
E-bost: cysylltu@ceredigion.gov.uk