Y diweddaraf ar Storm Darragh yng Ngheredigion
Dyma rai cysylltiadau allweddol i'w cadw wrth law, a thudalennau defnyddiol lle gallwch gael diweddariadau am #StormDarragh
- Teithio - Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth / Traffic Wales North & Mid
- Tywydd - Met Office
- Rhybuddion llifogydd - Cyfoeth Naturiol Cymru ewch i: https://orlo.uk/Khal9 / Ffoniwch Floodline: 0345 988 1188
- Toriadau trydan neu linellau wedi'u difrodi - Ffoniwch 105
- Adrodd am goed sydd wedi cwympo: https://orlo.uk/ekfhb
Os ydych yn sâl ac yn chwilio am gyngor, gallwch ddefnyddio gwirydd symptomau GIG 111 Cymru ar-lein: https://111.wales.nhs.uk/selfassessments. Cysylltwch â 999 ar gyfer argyfyngau sy’n bygwth bywyd yn unig.
13 Rhagfyr 2024, 15:30
Dyma ddiweddariad ar oriau agor y Canolfannau Galw Heibio dros y penwythnos (dydd Sadwrn 14 Rhagfyr, dydd Sul 15 Rhagfyr) ar gyfer preswylwyr sydd am gadw’n gynnes, cael cawod a gwefrio ffonau symudol.
|
Sadwrn 14 Rhagfyr |
Sul 15 Rhagfyr |
Canolfan Hamdden Plascrug |
10yb - 4yp |
10yb - 2yp |
Canolfan Hamdden Aberaeron |
8:30yb - 1yp |
Ar gau |
Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan |
9yb - 4yp |
9yb - 4yp |
Canolfan Hamdden Aberteifi |
9yb - 1yp |
9yb - 1yp |
Bydd Swyddfeydd Penmorfa Offices yn cau am 3:30yp heddiw ac yn aros ar gau dros y penwythnos.
12 Rhagfyr 2024, 17:30
Mae’n timau a chontractwyr wedi bod wrth eto yn clirio coed ar ein rhywdwaith ffyrdd, ac mae’r ffyrdd canlynol ychwanegol yn awr ar agor, gyda gofal:
- C1034 Lon Rhydygwin, Llanfarian
- C1037 Dolfor (Trawscoed i Ledrod)
- C1145 Trisant
- C1038 Silian
- C1075 Pontsian
- C1063 Brongest i Fetws Ifan
- C1072 Gorsgoch i Dalgarreg
- U5262 Prengwyn i Bontsian
- U5261 Pontsian
- U5214 Prengwyn
- U5064 Penbryn
- C1156 Penbryn
- C1142 Pentregat - Rhydlewis
Fe fydd y ffyrdd canlynol yn parhau ar gau dros nos, ar ddydd Iau 12 Rhagfyr wrth i ni ddarganfod/derbyn negeseuon am goed eraill sydd wedi disgyn:
- B4572 Amlosgfa Aberystwyth i
- Langorwen
- B4578 Tyncelyn i Llanio
- C1099 Maesllyn
- C1180 Cwmtydu
- C1041 o’r A482 yn Neuadd Lwyd
- C1159 Llangrannog
- U1113 Goginan
- U1315 Bronant
- U5208 Llandyfriog
- U5182 Ciliau Aeron
- U5311 Cwrtnewydd
- U5133 Llwyndafydd
- U5272 Horeb i Fangor Teifi
- U1071 Goginan
- U3422 Hep; Briscwm
- U1103 Troedrhiwlasgrug
- U1071 Goginan
Mae llawer o falurion ar bob heol o hyd, a chynghorir y cyhoedd i yrru’n ofalus.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pan fyddant i’w cael yn ystod y dydd ar Ddydd Gwener, 13 Rhagfyr, ac hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r cyhoedd unwaith eto am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod yr adeg heriol hwn.
12 Rhagfyr 2024, 08:50
Mae’r Canolfannau galw heibio canlynol ar agor heddiw (dydd Iau 12 Rhagfyr) er mwyn i drigolion allu cadw’n gynnes, gael cawod a gwefrio ffonau symudol. Bydd diodydd poeth ar gael hefyd:
- Swyddfa'r Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron- 9am - 5pm
- Canolfan Hamdden Aberaeron - 3pm - 9pm
- Canolfan Hamdden Aberteifi - 7am - 9pm
- Canolfan Hamdden Plascrug - 7am - 9pm
- Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan - 9am - 9pm
11 Rhagfyr 2024, 17:00
Mae’n timau a chontractwyr wedi bod wrth eto yn clirio coed ar ein rhywdwaith ffyrdd, ac mae’r ffyrdd canlynol â nodwyd eu bod ar gau’n flaenorol yn awr ar agor, gyda gofal:
- C1034 Lon Rhydygwin, Llanfarian
- C1037 Dolfor (Trawscoed i Ledrod)
- C1145 Trisant
- C1038 Silian
- C1075 Pontsian
- C1063 Brongest i Betws Ifan
- C1072 Gorsgoch i Talgarreg
- U5262 Prengwyn i Pontsian
- U5261 Pontsian
Fe fydd y ffyrdd canlynol yn parhau ar gau dros nos, ar ddydd Mercher 11 Rhagfyr wrth i ni ddarganfod/derbyn negeseuon am goed eraill sydd wedi disgyn:
- B4572 Amlosgfa Aberystwyth i Langorwen
- B4578 Tyncelyn i Llanio
- C1099 Maesllyn
- C1180 Cwmtydu
- C1041 o A482 ar Neuadd Lwyd
- C1159 Llangrannog
- U1113 Goginan
- B4572 Amlosgfa Aberystwyth i Langorwen
- B4578 Tyncelyn i Llanio
- C1099 Maesllyn
- C1180 Cwmtydu
- C1041 o A482 ar Neuadd Lwyd
- C1159 Llangrannog
- U1113 Goginan
Mae llawer o falurion ar bob heol o hyd, a chynghorir y cyhoedd i yrru’n ofalus.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pan fyddant i’w cael yn ystod y dydd ar Ddydd Iau, 12 Rhagfyr, ac hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r cyhoedd unwaith eto am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod yr adeg heriol hwn.
11 Rhagfyr 2024, 09:00
Fe fydd yr ysgol canlynol ar gau heddiw oherwydd torriad i’r cyflenwad trydan:
- Ysgol Rhos Helyg, Campws Bronant
Fodd bynnag, mae Campws Llangeitho yn gwahodd disgyblion a staff Ysgol Rhoshelyg Bronant i ymuno â nhw eto heddiw. Bydd y plant sydd fel arfer yn teithio i safle Bronant ar fws ysgol yn cael eu cludo i safle Llangeitho.
11 Rhagfyr 2024, 08:45
Mae’r Canolfannau galw heibio canlynol ar agor heddiw (dydd Mercher 11 Rhagfyr) er mwyn i drigolion allu cadw’n gynnes, gael cawod a gwefrio ffonau symudol. Bydd diodydd poeth ar gael hefyd:
- Swyddfa'r Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron- 9am - 5pm
- Canolfan Hamdden Aberaeron - 3pm - 9pm
- Canolfan Hamdden Aberteifi - 7am - 9pm
- Canolfan Hamdden Plascrug - 7am - 9pm
- Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan - 9am - 9pm
10 Rhagfyr 2024, 16:00 - Ffyrdd ar gau a'r ffyrdd sydd ar agor
Mae’n timau a chontractwyr wedi bod wrth eto yn clirio coed ar ein rhywdwaith ffyrdd, ac mae’r ffyrdd canlynol â nodwyd eu bod ar gau’n flaenorol yn awr ar agor, gyda gofal:
B4334 Aberbanc i Goedybryn
C1034 Lon Rhydygwin, Llanfarian (ceir yn unig)
C1038 Silian (ceir yn unig)
A44 Ponterwyd i Ddyffryn Castell
Fe fydd y ffyrdd canlynol yn parhau ar gau dros nos, ar ddydd Mawrth 10 Rhagfyr wrth i ni ddarganfod/derbyn negeseuon am goed eraill sydd wedi disgyn:
B4572 Amlosgfa Aberystwyth i Langorwen
B4578 Tyncelyn i Llanio
C1037 Dolfor (Trawscoed i Ledrod)
C1099 Maesllyn
C1180 Cwmtydu
C1075 Pontsian
C1063 Brongest i Betws Ifan
C1041 o’r A482 yn Neuadd Lwyd
C1145 Trisant
U1113 Goginan
U1315 Bronant
U5208 Llandyfriog
U5182 Ciliau Aeron
U5311 Cwrtnewydd
U5262 Prengwyn i Pontsian
U5261 Pontsian
U1113 Goginan
10 Rhagfyr 2024, 09:00 - Canolfannau galw heibio
Mae’r Canolfannau galw heibio canlynol ar agor heddiw (dydd Mawrth 10 Rhagfyr) er mwyn i drigolion allu cadw’n gynnes, gael cawod a gwefrio ffonau symudol. Bydd diodydd poeth ar gael hefyd:
- Swyddfa'r Cyngor Penmorfa, Aberaeron- 9am - 5pm
- Canolfan Hamdden Aberaeron - 3pm - 9pm
- Canolfan Hamdden Aberteifi - 7am - 9pm
- Canolfan Hamdden Plascrug - 7am - 9pm
- Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan - 9am - 9pm
10 Rhagfyr 2024, 08:45 - Ysgolion ar gau
Fe fydd yr ysgolion canlynol ar gau heddiw oherwydd torriad i’r cyflenwad trydan:
- Ysgol Rhos Helyg, Campws Bronant
Fodd bynnag, mae Campws Llangeitho yn gwahodd disgyblion a staff Ysgol Rhoshelyg Bronant i ymuno â nhw eto heddiw. Bydd y plant sydd fel arfer yn teithio i safle Bronant ar fws ysgol yn cael eu cludo i safle Llangeitho.
09 Rhagfyr 2024, 17:30 - Ffyrdd ar gau a'r ffyrdd sydd ar agor
Mae’n timau a chontractwyr wedi bod wrth eto yn clirio coed ar ein rhywdwaith ffyrdd, ac mae’r ffyrdd canlynol â nodwyd eu bod ar gau’n flaenorol yn awr ar agor, gyda gofal:
B4337 Llanrhystud
B4338 Cwrtnewydd
B4571 Ffostrasol
A475 ger Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn
B4570 Llangoedmor
Fe fydd y ffyrdd canlynol yn parhau ar gau dros nos, ar ddydd Llun 9 Rhagfyr:
A44 Capel Bangor i Dyffryn Castell
B4572 Amlosgfa Aberystwyth i
Langorwen
B4578 Stag’s Head o Tyncelyn i Llanio
B4572 o Clarach i’r Amlosgfa
B4334 Aberbanc i Goedybryn
C1034 Lon Rhydygwin, Llanfarian
C1037 Dolfor (Trawscoed i Lledrod)
C1038 Silian
C1099 Maesllyn
C1180 Cwmtydu
U1113 Goginan
U1315 Bronant
U5208 Llandyfriog
Bydd llawer o falurion ar bob heol o hyd, a chynghorir y cyhoedd i yrru’n ofalus.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pan fyddant i’w cael yn ystod y dydd ar Ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr, ac hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r cyhoedd unwaith eto am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod yr adeg heriol hwn.
09 Rhagfyr 2024, 17:00 - Canolfannau Cynnes Ceredigion
Yn ogystal â’r Canolfannau Galw Heibio sy’n agored i’r cyhoedd heddiw, dyma restr o’r ‘Canolfannau Cynnes’ sydd hefyd ar gael:
Camfan, Llambed ddydd Llun. - ddydd Gwener. 9.30am - 3.30pm
Ardal 43, Aberteifi (Ieunctid yn unig) ddydd Mawrth - ddydd Sadwrn
Longwood Community Woodland, ger Llambed Llun. ddydd Mercher, Gwener, Sadwrn 10am - 4pm
Caffi Cletwr, Tre’r Ddol ar agor tan 9pm heno
Canolfan Deuluol Tregaron, Neuadd Goffa Tregaron ddydd Mawrth 10.30am - 1.30pm
Neuadd Bentref Aberporth ar agor heno a ddydd Mawrth tan 9pm
Cwtch Cynnes, Neuadd Goffa Talybont ddydd Mawrth 10am - 12pm
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Theatre Mwldan, Aberteifi ddydd Mawrth - ddydd Sul 12 - 8pm
Canolfan Mwldan, Aberteifi ddydd Llun tan 2pm
‘Homestart’ Aberaeron
Swyddfa ‘Homestart’, Llambed ddydd Llun 12.30 - 2pm
Llyfrgell Aberystwyth ddydd Mawrth 9.30am - 11am
Hwb Penparcau ddydd Mawrth 12pm - 1.30pm
Neuadd Goffa Felinfach ddydd Iau 12.20 - 2pm
Neuadd Goffa Talybont ddydd Iau 10am - 11.30am
09 Rhagfyr 2024, 16:00 - Gwastraff bwyd
Os ydych wedi cael toriad trydan, dyma gyngor ar beth i wneud gyda gwastraff bwyd:
- Tynnwch y bwyd o'i becyn.
- Rhowch y gwastraff bwyd yn eich bin gwastraff bwyd a'r pecyn yn eich bag ailgylchu clir fel y bo'n briodol.
- Os yw eich bin gwastraff bwyd yn llawn rhowch y gwastraff bwyd dros ben mewn bwced neu gynhwysydd bychan wedi'i labelu'n glir “Gwastraff Bwyd” a'i roi allan i'w gasglu gyda'ch bin gwastraff bwyd ar eich diwrnod casglu nesaf.
08 Rhagfyr 2024, 17:20
Gan fod nifer yr ymwelwyr â Swyddfeydd Penmorfa, Aberaeron wedi bod yn gymharol isel, fe fydd y Ganolfan galw heibio nawr yn cau am 7.30yh heno.
08 Rhagfyr 2024, 17:15
Mae’n timau a contractwyr wedi bod yn gweithio ar y rwydwaith ers iddi oleuo y bore ma, gan flaenoriaeth’r prif ffyrdd (A a B) felly gall fod peth amser cyn y gallwn ymdrin â phob/rhai ffyrdd eraill.
Mae’r ffyrdd canlynol a oedd wedi’u heffeithio gan goed yn disgyn a/neu lifogydd yn agored nawr, gyda gofal:
A44 Aberystwyth i Gapel Bangor
A44 Dyffryn Castell i Langurig
A487 Machynlleth i Cardigan
A4120 Aberystwyth i Bonterwyd
A485 Llanilar i Lanfarian
A485 Llanilar i Rosygarth
A485 Tregaron i Lambed
A482 Llambed i Aberaeron
A475 Horeb i Lampeter
A484 Cardigan to Lambed
B4571 Ffostrasol i Adpar
B4476 Prengwyn i Landysul
B4578 Heol y Gogledd/Heol Gwbert
B4337 Temple Bar i Lanybydder
B4338 Llanybydder i Gwrtnewydd
B4321 Llangrannog
C1162 Beulah
B4340 Aberystwyth i Abermagwr
B4342 Stags Head i Langeitho
B4343 Tregaron i Bontrhydfendigaid
B4343 Pontrhydfendiagid i Bontarfynach
B4343 Llanddewi Brefi i Cellan
B4337 Llanrhystud i Dalsarn
B4577 Tyncelyn i Cross Inn
B4572 Waunfawr i Amlosgfa Aberystwyth -
(bydd yn agor nes ymlaen heno)
B4353 Bow Street i Borth
Fe fydd y rhannu canlynol o’r ffordd yn parhau ar gau dros nos, ac fe fyddant yn cael eu haodlygu fory:
A44 Capel Bangor i Ddyffryn Castell
A475 ger Clwb Rygbi, Castell Newydd Emlyn
B4337 Llanrhystud i gyffordd C1002
B4572 Amlosgfa Aberystwyth i Langorwen
B4578 at Cefn Banadl
B4338 Cwrtnewydd (ger chwarel Alltgoch)
B4571 Ffostrasol
C1099 Maesllyn
C1180 Cwmtydu
Mae llawer o falurion ar bob heol o hyd, a chynghorir y cyhoedd i gymeryd gofal wrth yrru.
Fe fyddwn yn cyhoeddi diweddariadau gynted a phosib yn ystod y dydd, ddydd Llun ac fe hoffwn ddiolch unwaith eto i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.
08 Rhagfyr 2024, 16:45
Noder for y Canolfannau galw heibio ar agor heddiw (dydd Sul 8 Rhagfyr) tan 10yh er mwyn i drigolion allu cadw’n gynnes, gael cawod a gwefrio ffonau symudol. Bydd diodydd poeth ar gael hefyd:
Canolfan Hamdden Aberteifi
Canolfan Hamdden Plascrug - Aberystwyth
Mae Swyddfeydd Penmorfa, Aberaeron ar agor hefyd am baned cynnes, ac os ydych am wefrio’ch ffonau symudol.
Rydym yn gobeithio gallu rhannu diweddariad am ddarpariaeth yn ardal Llambed yn fuân.
08 Rhagfyr 2024, 14:30
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi agor y Canolfannau canlynol heddiw (dydd Sul 8 Rhagfyr) er mwyn i drigolion allu cadw’n gynnes, gael cawod a gwefrio ffonau symudol. Bydd diodydd poeth ar gael hefyd:
Swyddfeydd Penmorfa, Aberaeron
Canolfan Hamdden Aberteifi
Canolfan Hamdden Plascrug - Aberystwyth
Rydym yn ceisio paratoi darpariaeth yn ardal Llambed yn ogystal, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu maes o law.
Rydym yn cysylltu â phreswylwyr bregus sydd â chynllun gofal, and yn ymateb i bob cais am gymorth. A wnewch chi plis alw â chymdogion bregus a rhoi gwybod i ni os ydych angen unrhyw gymorth.
08 Rhagfyr 2024, 12:15
Mae’r heol A485 rhwng Abermad a Llanfarian a oedd wedi ail-agor nawr ar gau eto.
Rydym yn gobeithio ail-agor y ffordd yn hwyrach yn y pnawn.
Bydd cryn dipyn o falurion a dŵr ar bob ffordd o hyd, a chynghorir y cyhoedd i fod yn ofalus iawn wrth yrru.
Byddwn yn ceisio danfon diweddariadau pellach pan fyddant ar gael a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
08 Rhagfyr 2024, 10:10
Mae ein Timau a'n contractwyr allan ar y rhwydwaith yn clirio coed ers golau dydd y bore yma, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y prif ffyrdd (A a B) ac felly gall fod peth amser cyn y gellir ymdrin â’r coed sy'n effeithio ar ffyrdd eraill.
Mae'r ffyrdd canlynol, a oedd ar gau ynghynt oherwydd coed a oedd wedi disgyn, bellach ar agor, gyda gofal:
- A4120 Pontrhydygroes – Pontarfynach
- A485 Llanilar i Lanfarian
- B4342 Stags Head i Langeitho
Bydd cryn dipyn o falurion a dŵr ar bob ffordd o hyd, a chynghorir y cyhoedd i fod yn ofalus iawn wrth yrru.
Byddwn yn ceisio danfon diweddariadau pellach pan fyddant ar gael a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol hwn.
08 Rhagfyr 2024, 8:15
Er bod y gwyntoedd cryfion sy'n gysylltiedig â Storm Darragh wedi llacio, mae nifer sylweddol o goed mawr yn dal i effeithio ar drafnidiaeth ar hyd y rhwydwaith priffyrdd, ac felly mae amodau gyrru yn parhau i fod yn beryglus iawn.
Bydd Timau a chontractwyr y Cyngor allan eto y bore yma i geisio clirio'r coed, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y prif ffyrdd (A a B) ac felly gall fod peth amser cyn y gellir delio â’r coed sy'n effeithio ar ffyrdd eraill.
Hyd yn oed ar ôl clirio'r coed, bydd cryn dipyn o falurion a dŵr llifogydd yn parhau sy'n golygu y dylid cymryd gofal eithafol wrth yrru.
Byddwn yn danfon diweddariadau pellach pan fyddant i’w cael, a hoffem ddiolch eto i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.
07 Rhagfyr 2024, 20:30
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar Afon Aeron yn Aberaeron, ar gyfer eiddo a ffyrdd sy'n agos at yr afon yn Aberaeron gan gynnwys swyddfeydd y cyngor a pharc cyhoeddus; ac ar Afon Teifi yn Llanybydder o ran y safle carafanau, eiddo yn Nheras yr Orsaf, Stryd y Bont, Teras Highmeas a Gwesty Highmead Arms.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Afon Aeron yn Aberaeron - Rhybuddion Llifogydd
Afon Teifi yn Llanybydder - Rhybuddion Llifogydd
07 Rhagfyr 2024, 15:45
Rydym yn ymwybodol o nifer sylweddol o goed a pholion/ceblau sydd wedi disgyn ledled y Sir sy'n effeithio ar drafnidiaeth ar draws y rhwydwaith priffyrdd, ac mae amodau gyrru yn parhau i fod yn beryglus iawn.
Mae ein timau a'n contractwyr wedi bod allan dros nos a thrwy gydol y dydd clirio coed sydd wedi disgyn er mwyn cadw ffyrdd ar agor, ond mae nifer y coed sydd wedi disgyn, ac sy'n parhau i ddisgyn ynghyd â'r amodau gwaith peryglus yn golygu na fydd modd agor llawer o ffyrdd dros nos, ac felly bydd y coed/ffyrdd hynny'n cael eu blaenoriaethu yfory.
Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.
07 Rhagfyr 2024, 15:30
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian, yr Afon Aeron yn Nhalsarn a'r Afon Rheidlon mewn ardaloedd isel, ger Aberystwyth.
Disgwylir llifogydd i eiddo ynysig yn Llanfarian, Abermad ac ym Mhont Tanycastell; eiddo rhwng Tafarn y Llew Coch, yr afon a'r B4337 yn Nhalsarn; ac yr A44 yng Ngelli Angharad, heol A4120 a chaeau chwarae Llanbadarn gan gynnwys maes carafannau Pentref Gwyliau Aberystwyth a Fferm Grovener.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Afon Ystwyth yn Rhydyfelin a Llanfarian - Rhybuddion Llifogydd
Afon Aeron yn Nhal-sarn - Rhybuddion Llifogydd
Afon Rheidol mewn mannau isel, Aberystwyth - Rhybuddion Llifogydd
07 Rhagfyr 2024, 14:15
Nid yw'r rhybudd tywydd Coch am wynt bellach mewn grym yn dilyn 11:00 heddiw, ond mae'r rhybudd Ambr am wynt yn parhau i fod mewn grym tan 21:00 heno.
Gan fod yr amodau'n parhau i fod yn beryglus, cynghorir trigolion ac ymwelwyr Ceredigion i osgoi teithio sydd ddim yn hanfodol.
Mae criwiau Ceredigion wedi bod yn gweithio dros nos ac yn parhau i weithio ar draws y Sir.
07 December 2024, 09:10
Mae rhybudd llifogydd wedi'i chyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid a Llanbedr Pont Steffan.
Disgwylir llifogydd i eiddo wrth ymyl ac i'r gogledd o Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid, gan gynnwys Stryd y Bont. Hefyd, i eiddo yn ffinio ac i'r gogledd o Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys yr archfarchnad a'r ganolfan hamdden.
Gweler y dolenni isod am wybodaeth pellach:
Rhybydd Llifogydd: Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid
Rhybydd Llifogydd: Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan
07 Rhagfyr 2024, 09:00
Mae'r rhybudd tywydd Melyn ar gyfer glaw wedi'i diweddaru ar gyfer Ceredigion ac nawr mewn grym o 15:00 ar ddydd Gwener 06 Rhagfyr i 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
06 Rhagfyr 2024, 15:00
Oherwydd rhybydd Coch am wynt difrifol rhwng 03:00 a 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024, bydd y gweithgareddau / gwasanaethau canlynol ar gau er diogelwch y cyhoedd:
- Pantomeim Felinfach ar nos Sadwrn 7 Rhagfyr
- Canolfannau Hamdden y Sir
- Canolfannau Llesiant y Sir
- Llyfrgelloedd y Sir
- Amgueddfa Ceredigion
- Safleoedd Gwastraff Cartref y Sir
Ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn ystod y bore, gan gynnwys gwasanaethau bws Traws Cymru. Am fanylion pellach ar gwasanaethau Traws Cymru, cysylltwch a ‘Thrafnidiaeth Cymru’
06 Rhagfyr 2024, 13:15
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Coch am wynt ar gyfer Ceredigion a fydd mewn grym o 03:00 tan 11:00 ar ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024. Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn cyrraedd 90mya neu mwy yn gynnar ar fore Sadwrn.
Cynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i gadw eich hun yn ddiogel ac osgoi trafaelu ar y ffyrdd yn ystod amodau tywydd peryglus, gan efallai bydd difrod eang a tharfu ar bŵer a theithio. Mae bod tu allan mewn gwyntoedd cryfion yn beryg; arhoswch dan do os yw hyn yn bosib.
Gallai’r gwyntoedd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor. Ceisiwch baratoi ymlaen llaw trwy gasglu tortsh, banciau pŵer ffôn ac eitemau hanfodol eraill.
Mae ardaloedd arfordirol hefyd mewn perygl o donnau mawr. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
Atgoffir preswylwyr hefyd o'r angen i aros yn ddiogel y tu allan i gyfnod y rhybudd Coch, oherwydd y rhybudd Ambr sydd hefyd mewn grym rhwng 01:00 a 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr 2024.
Mae rhybudd Melyn am wynt rhwng 15:00 dydd Iau 05 Rhagfyr tan 06:00 dydd Sul 08 Rhagfyr, 2024 yn parhau i fod mewn grym gan gynnwys y rhybudd tywydd Melyn am law rhwng 15:00 Dydd Gwener 06 Rhagfyr tan 12:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk/
05 Rhagfyr 2024, 14:40
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd Ambr am wynt a fydd mewn grym o 03:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr tan 21:00 ddydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Mae hefyd rhybudd tywydd Melyn am wynt rhwng 15:00 dydd Iau 05 Rhagfyr tan 06:00 dydd Sul 08 Rhagfyr, 2024, a rhybudd tywydd Melyn am law rhwng 15:00 Dydd Gwener 06 Rhagfyr tan 12:00 dydd Sadwrn 07 Rhagfyr, 2024.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn aml yn cyrraedd 60-70mya, a 70-80mya mewn lleoliadau agored ar hyd yr arfordir ar adegau, gyda disgwyliad o 20mm-30mm o law. Gyda rhai rhannau o Gymru yn debygol i weld 50-60mm dros y cyfnod hwn bydd gallu arwain i lifogydd ac amhariad mewn rhannau.
Cynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i fod yn ddiogel a pheidio â gwneud teithiau diangen yn ystod y rhybuddion tywydd.
Atgoffir y cyhoedd i fod yn ofalus wrth deithio oherwydd gall y gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd. Gofynnir i’r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.
Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk/